•  

    Dyfodol Rhuthun 2023

    Ruthin Future 2023

     

    Y Dref, ei Phobl a’i Chynnydd ® People, Place & Potential

    15.09.23 - 30.09.23

  • Introduction

    Ruthin Future is Ruthin Town Council's community plan initiative which was established in 2011, and has supported the implementation of a number of projects, including the Ruthin Art Trail, and more recently the development of The Old Courthouse to be a Community, Civic and Visitor hub.

     

    Ruthin Town Council are now embarking on another community engagement period to outline how key ambitions are progressing as projects in partnership with other stakeholders. Projects include Public Realm improvements for The Heart of The Town and creating ‘Parc Clwyd’ by improving the network of Green spaces within the town and alongside the river.

     

    As part of the initiative, local people will have numerous opportunities to engage through a programme of events that will put Ruthin once again at the forefront of national debate about the sustainability of smaller UK Towns. Educators and professionals in planning, regeneration and engagement will gather on Wednesday 20th September for the Ruthin Future Small Town Summit.

     

    Cyflwyniad

    Dyfodol Rhuthun yw menter cynllun cymunedol Cyngor Tref Rhuthun a sefydlwyd yn 2011, ac sydd wedi cefnogi gweithredu nifer o brosiectau, gan gynnwys Llwybr Celf Rhuthun, ac yn fwy diweddar datblygiad Yr Hen Lys i fod yn ganolbwynt Cymunedol, Dinesig ac Ymwelwyr.

     

    Mae Cyngor Tref Rhuthun yn awr yn cychwyn ar gyfnod ymgysylltu cymunedol arall i amlinellu sut mae uchelgeisiau allweddol yn datblygu fel prosiectau mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill. Mae’r prosiectau’n cynnwys gwelliannau Parth Cyhoeddus ar gyfer Calon y Dref, creu ‘Parc Clwyd’ drwy wella’r rhwydwaith o fannau gwyrdd yn y dref ac ar hyd yr afon.

     

    Fel rhan o’r fenter, bydd pobl leol yn cael nifer o gyfleoedd i ymgysylltu trwy raglen o ddigwyddiadau a fydd yn rhoi Rhuthun unwaith eto ar flaen y gad mewn trafodaeth genedlaethol am gynaliadwyedd Trefi llai yn y DU. Bydd addysgwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes cynllunio, adfywio ac ymgysylltu yn ymgynnull ddydd Mercher 20 Medi ar gyfer Uwchgynhadledd Trefi Bach y Dyfodol yn Rhuthun.
  • Rhaglen • Programme

    25.09.23 Cyfarfod Llawn Cyngor Tref Rhuthun • Ruthin Town Council Full Meeting

    25.09.23 Cyfarfod Llawn Cyngor Tref Rhuthun • Ruthin Town Council Full Meeting

    Cyfarfod hybrid misol Cyngor Tref Rhuthun, gall aelodau o'r cyhoedd fynychu'n bersonol neu weld y trafodion ar-lein trwy Facebook Live. Bydd cyfarfod mis Medi yn cynnwys cyfle anffurfiol i gwrdd â'r cynghorwyr am 6.30pm. Mae'r cyfarfod ffurfiol am 7.00pm yn cynnwys eitemau agenda yn ymwneud â Dyfodol Rhuthun gan gynnwys uchelgeisiau i ddiffinio Parc Clwyd, trac Pwmp yng Nghae Ddol.

    Monthly hybrid meeting of Ruthin Town Council, members of the public are able to attend in person or to view proceedings online via Facebook Live. The September meeting will include an informal opportunity to meet the councillors at 6..30pm. The formal meeting at 7.00pm includes agenda items relating to Ruthin Future including ambitions to define Parc Clwyd, a Pump track at Cae Ddol.
    Select
    Quantity
    Coming soon
    26.09.23 Fforwm Cymunedol • Community Forum

    26.09.23 Fforwm Cymunedol • Community Forum

    7.00pm
    Cyfle i ddod ag amrywiol grwpiau cymunedol at ei gilydd i weld cynigion Dyfodol Rhuthun, rhannu eu barn ac annog cyfathrebu rhwng grwpiau gwirfoddol sy’n weithredol ar draws Rhuthun, i gefnogi cydweithredu, cydweithio a gweithgareddau cynllunio digwyddiadau wrth baratoi ar gyfer cyflwyno prosiectau Ffyniant Bro.

    7.00pm
    An opportunity to bring together various community groups to view Ruthin Future proposals, share their views and encourage communication between voluntary groups active across Ruthin, to support co-operation, collaboration and event planning activities in preparation of the delivery of Levelling Up projects.
    Select
    Quantity
    Coming soon
    27.09.23 Gwarchod Treftadaeth Unigryw Rhuthun • Protecting Ruthin's Unique Heritage

    27.09.23 Gwarchod Treftadaeth Unigryw Rhuthun • Protecting Ruthin's Unique Heritage

    Mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ddinesig Rhuthun a'r Cylch, bydd y siaradwr gwadd Chris Evans - Swyddog Cadwraeth Sirol CSDd, yn rhoi sgwrs dreiddgar ar ddulliau ac ymdrechion i warchod treftadaeth adeiledig unigryw yr ardal.

    Dilynir gan Holi ac Ateb
    Darperir lluniaeth

    In association with Ruthin & District Civic Association, guest speaker Chris Evans - DCC County Conservation Officer, will give an insightful talk on approaches and efforts to protect the areas unique built heritage.

    Followed by a Q&A
    Refreshments provided
    Select
    Quantity
    Coming soon
    28.09.23 Fforwm Amgylchedd ac Hinsawdd • Environment and Climate  Forum

    28.09.23 Fforwm Amgylchedd ac Hinsawdd • Environment and Climate Forum

    7.00pm
    Gwahoddir trigolion Rhuthun i ymuno â chynrychiolwyr sefydliadau cymunedol sy’n canolbwyntio ar heriau hinsawdd ac amgylcheddol, ac i ddarganfod sut y gall gweithredu lleol gefnogi ein llwybr i net sero a chyfrifoldeb amgylcheddol a chynaliadwyedd. Ymhlith y cyfranogwyr mae Cyfeillion y Ddaear Rhuthun, Re-Source, Bws Benthyg, Caffi Atgyweirio a Chynulliad Hinsawdd.

    7.00pm
    Ruthin residents are invited to join representatives of community organisations focussed on climate and Environmental challenges, and to discover how local action can support our route to net zero and environmental responsibility and sustainability. Participants include Ruthin Friends of the Earth, Re-Source, Borrow Bus, Repair Cafe and the Climate Assembly.
    Select
    Quantity
    Coming soon
    29.09.23 Noson Caws a Gwin y Maer • Mayor’s Cheese & Wine evening

    29.09.23 Noson Caws a Gwin y Maer • Mayor’s Cheese & Wine evening

    ER GWYBODAETH YN UNIG - Mynediad: Tocyn £15
    Ar gael o Siop Nain, Yr Hen Lys neu Anne Roberts

    FOR INFORMATION ONLY - Entry: Ticket £15
    Purchase from Siop Nain, The Old Courthouse or Anne Roberts

    Mae’r Maer, y Cynghorydd Anne Roberts yn cynnal Noson Caws a Gwin i godi arian , yn lleoliad hanesyddol Carchar Rhuthun. Mae’r elw i gyd yn mynd tuag at Gronfa Achosion Da y Maer – i sefydlu bwrsariaeth i bobl ifanc yn Rhuthun.

    The Mayor, Councillor Anne Roberts hosts a fundraising Cheese and Wine Evening from the historic setting of Ruthin Gaol. All proceeds towards the Mayor’s Good Causes Fund - to establish a bursary for young people in Ruthin.
    Coming soon
    30.09.23 Ras 10K or Dref i'r Tŵr • Town 2 Tower 10k Run

    30.09.23 Ras 10K or Dref i'r Tŵr • Town 2 Tower 10k Run

    ER GWYBODAETH YN UNIG - Cofrestru try www.out-fit.co.uk
    FOR INFORMATION ONLY - Register via www.out-fit.co.uk

    Trefnir gan y cwmni ffitrwydd lleol, Out-fit.
    Bydd rhwng 100 a 150 o redwyr yn cymryd rhan yn yr her newydd hon o’r Hen Lys ar Sgwâr San Pedr i Dŵr y Jiwbilî ar Foel Famau. Mae’r llwybr yn darparu ffordd amrywiol a heriol i fyny at Dŵr y Jiwbilî a llinell derfyn unigryw, dros 550m uwchben lefel y môr! Bydd yr olygfa yn bendant yn un gwerth chweil.

    Organised by local fitness company Out-fit
    this uphill race from Yr Hen Lys on St Peter’s Square to Jubilee Tower on Moel Famau will see between 100 and 150 runners take on this new challenge. The route provides a varied and challenging way up to the Jubilee Tower and a unique finish line, at over 550m above sea level! The view will definitely be worth it.
    Coming soon
  • Rhanwch eich barn • Share your views

    Defnyddiwch y ffurflen isod i awgrymu cwestiynau neu bynciau y gallem eu cynnwys yn ein harddangosfa i wahodd y gymuned i roi sylwadau arnynt. • Use the form below to suggest questions or subjects that we could include in our exhibition to invite the community to comment on.

  • Lawrlwytho Dogfen • Document Download

    Gellir lawrlwytho dogfennau menter blaenorol Dyfodol Rhuthun isod:

    Previous Ruthin Future initiative documents can be downloaded below:

    broken image

    Rhuthun • Tref Farchnad y Dyfodol • 2012

    Ruthin • Market Town of The Future • 2012

    Dogfen pedwar rhan pdf • Four part document pdf

    broken image

    Dyfodol Rhuthun 2 • 2018

    Ruhtin Future 2 • 2018

    Dogfen pedwar rhan pdf • Four part document pdf